Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 112:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg,a threfnu ei orchwylion yn onest;

6. oherwydd ni symudir ef o gwbl,a chofir y cyfiawn dros byth.

7. Nid yw'n ofni newyddion drwg;y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.

8. Y mae ei galon yn ddisigl, ac nid ofnanes iddo weld diwedd ar ei elynion.

9. Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion;y mae ei gyfiawnder yn para am byth,a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 112