Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 11:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Os dinistrir y sylfeini,beth a wna'r cyfiawn?

4. Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd,a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd;y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw,a'i olygon yn ei phrofi.

5. Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus,a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais.

6. Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus;gwynt deifiol fydd eu rhan.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 11