Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo,a dyged estroniaid ei enillion.

12. Na fydded i neb drugarhau wrtho,na gwneud ffafr â'i blant amddifad.

13. Torrer ymaith ei linach,a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth.

14. Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD,ac na ddileer pechodau ei fam.

15. Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad,a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir.

16. Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon,ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd,a'r drylliedig o galon hyd angau.

17. Carodd felltithio: doed melltith arno yntau.Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau.

18. Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn;suddodd i'w gnawd fel dŵr,ac fel olew i'w esgyrn.

19. Bydded fel y dillad a wisga,ac fel y gwregys sydd amdano bob amser.

20. Hyn fyddo tâl yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr,sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn.

21. Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw,gweithreda drosof er mwyn dy enw;oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.

22. Yr wyf yn druan a thlawd,a'm calon mewn gwewyr ynof.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109