Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O Dduw fy moliant, paid â thewi.

2. Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn,a llefaru wrthyf â thafod celwyddog,

3. a'm hamgylchu â geiriau casineb,ac ymosod arnaf heb achos.

4. Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant,a minnau'n gweddïo drostynt.

5. Talasant imi ddrwg am dda,a chasineb am gariad.

6. Apwyntier un drwg yn ei erbyn,a chyhuddwr i sefyll ar ei dde.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109