Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 108:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. eiddof fi yw Gilead a Manasse;Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;

9. Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”

10. Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?Pwy a'm harwain i Edom?

11. Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?

12. Rho inni gymorth rhag y gelyn,oherwydd ofer yw ymwared dynol.

13. Gyda Duw fe wnawn wrhydri;ef fydd yn sathru ein gelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 108