Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 108:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Deffro di, nabl a thelyn.Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.

3. Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd,a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,

4. oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,a'th wirionedd hyd y cymylau.

5. Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.

6. Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.

7. Llefarodd Duw yn ei gysegr,“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem,a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;

8. eiddof fi yw Gilead a Manasse;Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;

9. Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”

10. Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?Pwy a'm harwain i Edom?

11. Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?

12. Rho inni gymorth rhag y gelyn,oherwydd ofer yw ymwared dynol.

13. Gyda Duw fe wnawn wrhydri;ef fydd yn sathru ein gelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 108