4. Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch,heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;
5. yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,ac yr oedd eu nerth yn pallu.
6. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd hwy o'u hadfyd;
7. arweiniodd hwy ar hyd ffordd unioni fynd i ddinas i fyw ynddi.
8. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
9. Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,a llenwi'r newynog â phethau daionus.
10. Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,yn gaethion mewn gofid a haearn,
11. am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw,a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12. Llethwyd eu calon gan flinder;syrthiasant heb neb i'w hachub.
13. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
14. daeth â hwy allan o'r tywyllwch dudew,a drylliodd eu gefynnau.
15. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
16. Oherwydd torrodd byrth pres,a drylliodd farrau heyrn.