Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 107:33-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;

34. y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.

35. Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr,a thir sych yn ffynhonnau.

36. Gwna i'r newynog fyw yno,a sefydlant ddinas i fyw ynddi;

37. heuant feysydd a phlannu gwinwydd,a chânt gnydau toreithiog.

38. Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau,ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.

39. Pan fyddant yn lleihau ac wedi eu darostwngtrwy orthrwm, helbul a gofid,

40. bydd ef yn tywallt gwarth ar dywysogion,ac yn peri iddynt grwydro trwy'r anialwch diarffordd.

41. Ond bydd yn codi'r tlawd o'i ofid,ac yn gwneud ei deulu fel praidd.

42. Bydd yr uniawn yn gweld ac yn llawenhau,ond pob un drygionus yn atal ei dafod.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 107