Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:41-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

41. rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd,a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu casáu;

42. fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion,a'u darostwng dan eu hawdurdod.

43. Lawer gwaith y gwaredodd hwy,ond yr oeddent hwy yn wrthryfelgar eu bwriad,ac yn cael eu darostwng oherwydd eu drygioni.

44. Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngderpan glywodd eu cri am gymorth;

45. cofiodd ei gyfamod â hwy,ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;

46. parodd iddynt gael trugareddgan bawb oedd yn eu caethiwo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106