37. Yr oeddent yn aberthu eu meibiona'u merched i'r demoniaid.
38. Yr oeddent yn tywallt gwaed dieuog,gwaed eu meibion a'u merchedyr oeddent yn eu haberthu i ddelwau Canaan;a halogwyd y ddaear â'u gwaed.
39. Felly aethant yn aflan trwy'r hyn a wnaent,ac yn buteiniaid trwy eu gweithredoedd.
40. Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;
41. rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd,a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu casáu;
42. fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion,a'u darostwng dan eu hawdurdod.
43. Lawer gwaith y gwaredodd hwy,ond yr oeddent hwy yn wrthryfelgar eu bwriad,ac yn cael eu darostwng oherwydd eu drygioni.
44. Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngderpan glywodd eu cri am gymorth;
45. cofiodd ei gyfamod â hwy,ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;
46. parodd iddynt gael trugareddgan bawb oedd yn eu caethiwo.
47. Gwareda ni, O ARGLWYDD ein Duw,a chynnull ni o blith y cenhedloedd,inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd,ac ymhyfrydu yn dy fawl.
48. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb;dyweded yr holl bobl, “Amen.”Molwch yr ARGLWYDD.