Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:33-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. oherwydd gwnaethant ei ysbryd yn chwerw,ac fe lefarodd yntau yn fyrbwyll.

34. Ni fu iddynt ddinistrio'r bobloeddy dywedodd yr ARGLWYDD amdanynt,

35. ond cymysgu gyda'r cenhedloedd,a dysgu gwneud fel hwythau.

36. Yr oeddent yn addoli eu delwau,a bu hynny'n fagl iddynt.

37. Yr oeddent yn aberthu eu meibiona'u merched i'r demoniaid.

38. Yr oeddent yn tywallt gwaed dieuog,gwaed eu meibion a'u merchedyr oeddent yn eu haberthu i ddelwau Canaan;a halogwyd y ddaear â'u gwaed.

39. Felly aethant yn aflan trwy'r hyn a wnaent,ac yn buteiniaid trwy eu gweithredoedd.

40. Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;

41. rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd,a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu casáu;

42. fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion,a'u darostwng dan eu hawdurdod.

43. Lawer gwaith y gwaredodd hwy,ond yr oeddent hwy yn wrthryfelgar eu bwriad,ac yn cael eu darostwng oherwydd eu drygioni.

44. Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngderpan glywodd eu cri am gymorth;

45. cofiodd ei gyfamod â hwy,ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106