Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:21-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd,a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,

22. pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.

23. Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,sefyll yn y bwlch o'i flaen,i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.

24. Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,ac nid oeddent yn credu ei air;

25. yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.

26. Cododd yntau ei law a thynguy byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,

27. ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,a'u chwalu trwy'r gwledydd.

28. Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,a bwyta ebyrth y meirw;

29. yr oeddent wedi cythruddo'r ARGLWYDD â'u gweithredoedd,a thorrodd pla allan yn eu mysg.

30. Ond cododd Phinees a'u barnu,ac ataliwyd y pla.

31. A chyfrifwyd hyn yn gyfiawnder iddodros y cenedlaethau am byth.

32. Bu iddynt gythruddo'r Arglwydd hefyd wrth ddyfroedd Meriba,a bu'n ddrwg ar Moses o'u plegid,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106