Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Yr oeddent yn cenfigennu yn y gwersyll wrth Moses,a hefyd wrth Aaron, un sanctaidd yr ARGLWYDD.

17. Yna agorodd y ddaear a llyncu Dathan,a gorchuddio cwmni Abiram.

18. Torrodd tân allan ymhlith y cwmni,a llosgwyd y drygionus yn y fflamau.

19. Gwnaethant lo yn Horeb,ac ymgrymu i'r ddelw,

20. gan newid yr un oedd yn ogoniant iddyntam ddelw o ych yn pori gwellt.

21. Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd,a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,

22. pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.

23. Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,sefyll yn y bwlch o'i flaen,i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.

24. Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,ac nid oeddent yn credu ei air;

25. yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.

26. Cododd yntau ei law a thynguy byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,

27. ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,a'u chwalu trwy'r gwledydd.

28. Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,a bwyta ebyrth y meirw;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106