1. Molwch yr ARGLWYDD.Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,ac y mae ei gariad hyd byth.
2. Pwy all draethu gweithredoedd nerthol yr ARGLWYDD,neu gyhoeddi ei holl foliant?
3. Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw barn,ac yn gwneud cyfiawnder bob amser.
4. Cofia fi, ARGLWYDD, pan wnei ffafr â'th bobl;ymwêl â mi, pan fyddi'n gwaredu,
5. imi gael gweld llwyddiant y rhai a ddewisi,a llawenhau yn llawenydd dy genedl,a gorfoleddu gyda'th etifeddiaeth di.
6. Yr ydym ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu;yr ydym wedi troseddu a gwneud drygioni.
7. Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifftni wnaethant sylw o'th ryfeddodau,na chofio maint dy ffyddlondeb,ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y Môr Coch.
8. Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw,er mwyn dangos ei rym.
9. Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.
10. Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu,a'u harbed o law'r gelyn.
11. Caeodd y dyfroedd am eu gwrthwynebwyr,ac nid arbedwyd yr un ohonynt.
12. Yna credasant ei eiriau,a chanu mawl iddo.