8. Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth,gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
9. sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,a'i lw i Isaac—
10. yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
11. a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaanyn gyfran eich etifeddiaeth.”
12. Pan oeddent yn fychan o rif,yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
13. yn crwydro o genedl i genedl,ac o un deyrnas at bobl eraill,
14. ni adawodd i neb eu darostwng,ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos,
15. a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”
16. Pan alwodd am newyn dros y wlad,a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
17. yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau,Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
18. Doluriwyd ei draed yn y cyffion,a rhoesant haearn am ei wddf,
19. nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir,ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.
20. Anfonodd y brenin i'w ryddhau—brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;
21. gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ,ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,
22. i hyfforddi ei dywysogion yn ôl ei ddymuniad,ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.
23. Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft,a Jacob i grwydro yn nhir Ham.
24. A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn,ac aethant yn gryfach na'u gelynion.