8. a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,i'r lle a bennaist ti iddynt;
9. rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.
10. Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;
11. rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;
12. y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl,ac yn trydar ymysg y canghennau.
13. Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas;digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth.
14. Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg,a phlanhigion at wasanaeth pobl,i ddwyn allan fwyd o'r ddaear,
15. a gwin i lonni calonnau pobl,olew i ddisgleirio'u hwynebau,a bara i gynnal eu calonnau.
16. Digonir y coedydd cryfion,y cedrwydd Lebanon a blannwyd,
17. lle mae'r adar yn nythu,a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.
18. Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr,ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.
19. Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau,ac i'r haul wybod pryd i fachlud.