Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 104:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti;yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd,

2. a'th orchuddio â goleuni fel mantell.Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,

3. yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd,yn cymryd y cymylau'n gerbyd,yn marchogaeth ar adenydd y gwynt,

4. yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr,a'r fflamau tân yn weision.

5. Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini,fel na fydd yn symud byth bythoedd;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 104