Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 102:11-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.

12. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,a phery dy enw dros y cenedlaethau.

13. Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;y mae'n adeg i dosturio wrthi,oherwydd fe ddaeth yr amser.

14. Y mae dy weision yn hoffi ei meini,ac yn tosturio wrth ei llwch.

15. Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD,a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.

16. Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion,bydd yn ymddangos yn ei ogoniant;

17. bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig,ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad.

18. Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod,fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD:

19. ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd,i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear,

20. i wrando ocheneidiau carcharoriona rhyddhau'r rhai oedd i farw,

21. fel bod cyhoeddi enw'r ARGLWYDD yn Seion,a'i foliant yn Jerwsalem,

22. pan fo pobloedd a theyrnasoeddyn ymgynnull ynghyd i addoli'r ARGLWYDD.

23. Y mae wedi sigo fy nerth ar y daith,ac wedi byrhau fy nyddiau.

24. Dywedaf, “O fy Nuw, paid â'm cymryd yng nghanol fy nyddiau,oherwydd y mae dy flynyddoedd di dros yr holl genedlaethau.

25. “Gynt fe osodaist sylfeini'r ddaear,a gwaith dy ddwylo yw'r nefoedd.

26. Y maent hwy yn darfod, ond yr wyt ti yn aros;y maent i gyd yn treulio fel dilledyn.Yr wyt yn eu newid fel gwisg,ac y maent yn diflannu;

27. ond yr wyt ti yr un,a'th flynyddoedd heb ddiwedd.

28. Bydd plant dy weision yn byw'n ddiogel,a'u disgynyddion yn sicr o'th flaen.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 102