Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 8:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Paid â rhuthro o'i ŵydd, na dyfalbarhau gyda'r hyn sydd ddrwg, oherwydd y mae ef yn gwneud yr hyn a ddymuna.

4. Y mae awdurdod yng ngair y brenin, a phwy a all ofyn iddo, “Beth wyt yn ei wneud?”

5. Ni ddaw niwed i'r un sy'n cadw gorchymyn, a gŵyr y doeth yr amser a'r ffordd i weithredu.

6. Yn wir, y mae amser a ffordd i bob gorchwyl, er bod trueni pobl yn drwm arnynt.

7. Nid oes neb sy'n gwybod beth a fydd; a phwy a all fynegi beth a ddigwydd?

8. Ni all neb reoli'r gwynt, ac nid oes gan neb awdurdod dros ddydd marwolaeth. Nid oes bwrw arfau mewn rhyfel, ac ni all drygioni waredu ei feistr.

9. Gwelais hyn i gyd wrth imi sylwi ar yr hyn a ddigwydd dan yr haul, pan fydd rhywun yn arglwyddiaethu ar ei gymrodyr i beri niwed iddynt.

10. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael eu claddu. Arferent fynd a dod o'r lle sanctaidd, a chael eu canmol yn y ddinas lle'r oeddent wedi gwneud y pethau hyn. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

11. Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni.

12. Gall pechadur wneud drwg ganwaith a byw'n hir; eto gwn y bydd daioni i'r rhai sy'n ofni Duw ac yn ei barchu.

13. Ni fydd daioni i'r drygionus, ac nid estynnir ei ddyddiau fel cysgod, am nad yw'n ofni Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 8