Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 8:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pwy sydd fel y doeth?Pwy sy'n deall ystyr pethau?Y mae doethineb yn gwneud i wyneb rhywun ddisgleirio,ac yn newid caledwch ei drem.

2. Cadw orchymyn y brenin, o achos y llw i Dduw.

3. Paid â rhuthro o'i ŵydd, na dyfalbarhau gyda'r hyn sydd ddrwg, oherwydd y mae ef yn gwneud yr hyn a ddymuna.

4. Y mae awdurdod yng ngair y brenin, a phwy a all ofyn iddo, “Beth wyt yn ei wneud?”

5. Ni ddaw niwed i'r un sy'n cadw gorchymyn, a gŵyr y doeth yr amser a'r ffordd i weithredu.

6. Yn wir, y mae amser a ffordd i bob gorchwyl, er bod trueni pobl yn drwm arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 8