Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 7:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd,ac y mae cildwrn yn llygru'r meddwl.

8. Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau,ac amynedd yn well nag ymffrost.

9. Paid â rhuthro i ddangos dig,oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.

10. Paid â dweud, “Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?”Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 7