Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 7:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Fe euthum ati i ddeall â'm meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd.

26. A chanfûm rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd â'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi.

27. “Edrych, dyma'r peth a ganfûm,” medd y Pregethwr, “trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr,

28. oherwydd yr oeddwn yn chwilio amdano'n ddyfal ond yn methu ei gael; canfûm un dyn ymhlith mil, ond ni chefais yr un wraig ymhlith y cyfan ohonynt.

29. Edrych, hyn yn unig a ganfûm: bod Duw wedi creu pobl yn uniawn; ond y maent hwy wedi ceisio llawer o gynlluniau.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 7