Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 3:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder.

17. Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.”

18. Dywedais wrthyf fy hun, “Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid.”

19. Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.

20. Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.

21. Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?

22. Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei ôl?

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 3