Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:9-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Deuthum yn enwog, ac yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; ac eto glynais wrth ddoethineb.

10. Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nhâl am fy holl waith.

11. Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.

12. Yna trois i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb. Beth rhagor y gall y sawl a ddaw ar ôl y brenin ei wneud nag sydd eisoes wedi ei wneud?

13. Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch.

14. Y mae'r doeth â'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ffôl yn rhodio yn y tywyllwch; eto canfûm mai'r un peth yw tynged y ddau.

15. Yna dywedais wrthyf fy hun, “Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ffôl. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?” Yna dywedais, “Y mae hyn hefyd yn wagedd.”

16. Oherwydd ni chofir am byth am y doeth mwy na'r ffôl, ond fe anghofir am y naill a'r llall fel yr â'r dyddiau heibio; yn wir, marw y mae'r doeth fel y ffôl.

17. Yna deuthum i gasáu bywyd, gan fod y cyfan sy'n digwydd dan yr haul yn achosi blinder imi; yn wir y mae'r cyfan yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

18. Yr oeddwn yn casáu'r holl lafur a gyflawnais dan yr haul, gan y bydd yn rhaid imi ei adael i'r un a ddaw ar fy ôl;

19. a phwy sy'n gwybod ai doeth ynteu ffôl fydd hwnnw? Ac eto, ef fydd yn rheoli'r holl lafur a gyflawnais mewn doethineb dan yr haul. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

20. Yna euthum i anobeithio'n llwyr am yr holl lafur a gyflawnais dan yr haul.

21. Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr.

22. Beth a gaiff neb am yr holl lafur a'r ymdrech a gyflawnodd dan yr haul?

23. Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

24. Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw;

25. oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef?

26. Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2