Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:4-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Gwneuthum bethau mawr: adeiledais dai i mi fy hun, a phlannu gwinllannoedd;

5. gwneuthum erddi a pherllannau, a phlannu pob math ar goed ffrwythau ynddynt;

6. gwneuthum hefyd lynnoedd i ddyfrhau ohonynt y llwyni coed oedd yn tyfu;

7. prynais gaethion, yn ddynion a merched, ac yr oedd gennyf weision wedi eu geni yn fy nhÅ·; yr oedd gennyf fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem;

8. cesglais arian ac aur, trysorau brenhinoedd a thaleithiau; yr oedd gennyf hefyd gantorion a chantoresau, a digonedd o ferched gordderch i ddifyrru dynion.

9. Deuthum yn enwog, ac yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un a fu o'm blaen yn Jerwsalem; ac eto glynais wrth ddoethineb.

10. Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nhâl am fy holl waith.

11. Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.

12. Yna trois i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb. Beth rhagor y gall y sawl a ddaw ar ôl y brenin ei wneud nag sydd eisoes wedi ei wneud?

13. Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch.

14. Y mae'r doeth â'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ffôl yn rhodio yn y tywyllwch; eto canfûm mai'r un peth yw tynged y ddau.

15. Yna dywedais wrthyf fy hun, “Yr un peth a ddigwydd i mi ac i'r ffôl. Pa elw a gaf o fod yn ddoeth?” Yna dywedais, “Y mae hyn hefyd yn wagedd.”

16. Oherwydd ni chofir am byth am y doeth mwy na'r ffôl, ond fe anghofir am y naill a'r llall fel yr â'r dyddiau heibio; yn wir, marw y mae'r doeth fel y ffôl.

17. Yna deuthum i gasáu bywyd, gan fod y cyfan sy'n digwydd dan yr haul yn achosi blinder imi; yn wir y mae'r cyfan yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2