Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedais wrthyf fy hun, “Tyrd yn awr, gad imi brofi pleser, a'm mwynhau fy hun,”

2. ond yr oedd hyn hefyd yn wagedd. Dywedais fod chwerthin yn ynfydrwydd, ac nad oedd pleser yn dda i ddim.

3. Ceisiais godi fy nghalon â gwin, gan ofalu fy mod yn ymddwyn yn ddoeth ac yn ffrwyno ffolineb, nes imi weld beth oedd yn dda i bobl ei wneud dan y nef yn ystod cyfnod byr eu hoes.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2