Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Oferedd Bywyd

1. Geiriau'r Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem:

2. “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr,“gwagedd llwyr yw'r cyfan.”

3. Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur,wrth iddo ymlafnio dan yr haul?

4. Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond y mae'r ddaear yn aros am byth.

5. Y mae'r haul yn codi ac yn machlud,ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd.

6. Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd;y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus,ac yn dod yn ôl i'w gwrs.

7. Y mae'r holl nentydd yn rhedeg i'r môr,ond nid yw'r môr byth yn llenwi;y mae'r nentydd yn mynd yn ôl i'w tarddle,ac yna'n llifo allan eto.

8. Y mae pob peth mor flinderusfel na all neb ei fynegi;ni ddigonir y llygad trwy edrych,na'r glust trwy glywed.

9. Yr hyn a fu a fydd,a'r hyn a wnaed a wneir;nid oes dim newydd dan yr haul.

10. A oes unrhyw beth y gellir dweud amdano,“Edrych, dyma beth newydd”?Y mae'r cyfan yn bod ers amser maith,y mae'n bod o'n blaenau ni.

11. Ni chofir am y rhai a fu,nac ychwaith am y rhai a ddaw ar eu hôl;ni chofir amdanynt gan y rhai a fydd yn eu dilyn.

Profiad y Pregethwr

12. Yr oeddwn i, y Pregethwr, yn frenin ar Israel yn Jerwsalem.

13. Rhoddais fy mryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef. Gorchwyl diflas yw'r un a roddodd Duw i bobl ymboeni yn ei gylch.

14. Gwelais yr holl bethau a ddigwyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt.

15. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam,na chyfrif yr hyn sydd ar goll.

16. Dywedais wrthyf fy hun, “Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth.”

17. Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt.

18. Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid,ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.