Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 3:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. “Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur,iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDDa'i wasanaethu'n unfryd.

10. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopiay dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgarsy'n ymbil arnaf.

11. “Ar y dydd hwnnwni'th waradwyddir am dy holl waithyn gwrthryfela i'm herbyn;oherwydd symudaf o'th blithy rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder,ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafuyn fy mynydd sanctaidd.

12. Ond gadawaf yn dy fysgbobl ostyngedig ac isel,a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD;

13. ni wnânt ddim anghyfiawn na dweud celwydd,ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau;oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn.”

14. Cân, ferch Seion;gwaedda'n uchel, O Israel;llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem.

15. Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt,a symud dy elynion.Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol,ac nid ofni ddrwg mwyach.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 3