Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 2:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Gwae drigolion glan y môr, cenedl y Cerethiaid!Y mae gair yr ARGLWYDD yn eich erbyn,O Ganaan, gwlad y Philistiaid:“Difethaf chwi heb adael trigiannydd ar ôl.”

6. A bydd glan y môr yn borfa,yn fythod i fugeiliaidac yn gorlannau i ddefaid.

7. Bydd glan y môr yn eiddo i weddill tŷ Jwda;yno y porant, a gorwedd fin nos yn nhai Ascalon.Oherwydd bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn ymweld â hwyac yn adfer eu llwyddiant.

8. “Clywais wawd Moaba gwatwaredd yr Ammoniaid,fel y bu iddynt wawdio fy mhobla bygwth eu terfyn.

9. Am hynny, cyn wired â'm bod i'n fyw,”medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel,“bydd Moab fel Sodom,a'r Ammoniaid fel Gomorra,yn dir danadl, yn bentwr o halen, yn ddiffaith am byth.Bydd y rhai a adawyd o'm pobl yn eu hanrheithio,a gweddill fy nghenedl yn meddiannu eu tir.”

10. Dyma'r tâl am eu balchder,am iddynt wawdio a bygwth pobl ARGLWYDD y Lluoedd.

11. Bydd yr ARGLWYDD yn ofnadwy yn eu herbyn,oherwydd fe ddarostwng holl dduwiau'r ddaear hyd newyn,a bydd holl arfordir y cenhedloedd yn ymostwng iddo,pob un yn ei le ei hun.

12. Chwithau hefyd, Ethiopiaid,fe'ch lleddir â'm cleddyf.

13. Ac fe estyn ei law yn erbyn y gogledd,a dinistrio Asyria;fe wna Ninefe'n anialwch,yn sych fel diffeithwch.

14. Bydd diadelloedd yn gorwedd yn ei chanol,holl anifeiliaid y maes;bydd y pelican ac aderyn y bwnyn nythu yn ei thrawstiau;bydd y dylluan yn llefain yn ei ffenestr,a'r gigfran wrth y rhiniog,am fod y cedrwydd yn noeth.

15. Dyma'r ddinas fostfawroedd yn byw mor ddiofal,ac yn dweud wrthi ei hun,“Myfi, nid oes neb ond myfi.”Y fath ddiffeithwch ydyw,lloches i anifeiliaid gwylltion!Bydd pob un a â heibio iddiyn chwibanu ac yn codi dwrn arni.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 2