Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ymgasglwch a dewch ynghyd, genedl ddigywilydd,

2. cyn i chwi gael eich gyrru ymaith, a diflannu fel us,cyn i gynddaredd llid yr ARGLWYDD ddod arnoch,cyn i ddydd dicter yr ARGLWYDD ddod arnoch.

3. Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai gostyngedig y ddaear sy'n cadw ei ddeddfau;ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch ostyngeiddrwydd;efallai y cewch guddfan yn nydd llid yr ARGLWYDD.

4. Bydd Gasa yn anghyfanneddac Ascalon yn ddiffaith;gyrrir allan drigolion Asdod ganol dydd,a diwreiddir Ecron.

5. Gwae drigolion glan y môr, cenedl y Cerethiaid!Y mae gair yr ARGLWYDD yn eich erbyn,O Ganaan, gwlad y Philistiaid:“Difethaf chwi heb adael trigiannydd ar ôl.”

6. A bydd glan y môr yn borfa,yn fythod i fugeiliaidac yn gorlannau i ddefaid.

7. Bydd glan y môr yn eiddo i weddill tŷ Jwda;yno y porant, a gorwedd fin nos yn nhai Ascalon.Oherwydd bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn ymweld â hwyac yn adfer eu llwyddiant.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 2