Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 9:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrachac yn Namascus, ei orffwysfa.Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram,fel holl lwythau Israel;

2. hefyd Hamath, sy'n terfynu arni,a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn.

3. Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;pentyrrodd arian fel llwch,ac aur fel llaid heol.

4. Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddoac yn difetha ei grym ar y môr;ac ysir hithau yn y tân.

5. Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni,Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid,ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith;derfydd am frenin yn Gasa,a bydd Ascalon heb drigolion;

6. pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod,a thorraf ymaith falchder y Philistiad.

7. Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,ac fel tylwyth yn Jwda;a bydd Ecron fel y Jebusiaid.

8. Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.

9. “Llawenha'n fawr, ferch Seion;bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.Wele dy frenin yn dod atatâ buddugoliaeth a gwaredigaeth,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ar ebol, llwdn asen.

10. Tyr ymaith y cerbyd o Effraima'r meirch o Jerwsalem;a thorrir ymaith y bwa rhyfel.Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

11. “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.

12. Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.

13. Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;codaf dy feibion, Seion,yn erbyn meibion Groeg,a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”

14. Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,a'i saeth yn fflachio fel mellten;Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgornac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.

15. Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt;llwyddant, sathrant y cerrig tafl,byddant yn derfysglyd feddw fel gan win,wedi eu trochi fel cyrn allor.

16. Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu;bydd ei bobl fel praidd,fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir.

17. Mor dda ac mor brydferth fydd!Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau,a gwin i'r morynion.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 9