Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 8:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus dros Seion, yn eiddigeddus iawn; â llid mawr yr wyf yn eiddigeddus drosti.’

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Seion a thrigo yng nghanol Jerwsalem, a gelwir Jerwsalem, Y Ddinas Ffyddlon, a mynydd ARGLWYDD y Lluoedd, Y Mynydd Sanctaidd.’

4. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd hen wŷr a gwragedd unwaith eto yn eistedd yn heolydd Jerwsalem, pob un â ffon yn ei law oherwydd ei henaint;

5. bydd strydoedd y ddinas yn llawn o fechgyn a genethod yn chwarae ar hyd y stryd.’

6. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os yw'n rhyfedd yng ngolwg gweddill y bobl hyn yn y dyddiau hynny, a yw hefyd yn rhyfedd yn fy ngolwg i?’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.

7. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Wele fi'n gwaredu fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin, a'u dwyn i drigo yng nghanol Jerwsalem;

8. a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy, mewn gwirionedd a chyfiawnder.’

9. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Chwi yn y dyddiau hyn sy'n clywed y geiriau hyn o enau'r proffwydi oedd yno pan osodwyd sylfeini tŷ ARGLWYDD y Lluoedd, cryfhaer eich dwylo i adeiladu'r deml.

10. Oherwydd cyn y dyddiau hynny nid oedd llogi ar ddyn nac ar anifail, ac ni chaed llonydd gan y gelyn i fynd a dod, ac yr oeddwn yn gyrru pob un ohonynt yn erbyn ei gilydd.

11. Ond yn awr nid wyf yr un tuag at weddill y bobl hyn ag yn y dyddiau gynt,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.

12. ‘Oherwydd bydd hau mewn heddwch; rhydd y winwydden ei ffrwyth, y tir ei gynnyrch, a'r nefoedd ei gwlith; rhof yr holl bethau hyn yn feddiant i weddill y bobl hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 8