Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Edrychais i fyny eto, a gweld pedwar cerbyd yn dod allan rhwng dau fynydd, a'r rheini'n fynyddoedd o bres.

2. Wrth y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, wrth yr ail, feirch duon,

3. wrth y trydydd, feirch gwynion, ac wrth y pedwerydd, feirch brithion.

4. Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”

5. Ac atebodd yr angel, “Y rhain yw pedwar gwynt y nefoedd sy'n mynd allan o'u safle gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 6