Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Edrychais i fyny eto, a gweld sgrôl yn ehedeg.

2. A dywedodd wrthyf, “Beth a weli?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld sgrôl yn ehedeg, yn ugain cufydd ei hyd, a'i lled yn ddeg cufydd.”

3. Yna dywedodd wrthyf, “Dyma'r felltith sy'n mynd allan dros yr holl ddaear: yn ôl un ochr, torrir ymaith pwy bynnag sy'n lladrata; yn ôl yr ochr arall, torrir ymaith pwy bynnag sy'n tyngu anudon.

4. Fe'i hanfonaf allan,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac fe â i mewn i dŷ'r lleidr ac i dŷ'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei dŷ a'i ddifetha, yn goed a cherrig.”

5. Daeth yr angel oedd yn siarad â mi a dweud wrthyf, “Edrych i fyny i weld beth yw hyn sy'n dod i'r golwg.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 5