Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 14:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Bydd yr holl ddaear yn wastadedd o Geba i Rimmon yn y de, a Jerwsalem yn sefyll yn uchel yn ei lle ac yn boblog o borth Benjamin hyd le'r hen borth, hyd borth y gornel, ac o dŵr Hananel hyd winwryf y brenin.

11. Bydd yn boblog, ac ni fydd dan felltith mwyach, ond gellir byw'n ddiogel ynddi.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r holl bobloedd a fu'n rhyfela yn erbyn Jerwsalem â'r pla hwn: bydd eu cnawd yn pydru, a hwythau'n dal ar eu traed, eu llygaid yn pydru yn eu tyllau, a'u tafod yn eu safn.

13. Ar y dydd hwnnw daw dychryn mawr arnynt oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd y naill yn codi yn erbyn y llall, a byddant yn ymladd yn erbyn ei gilydd;

14. a bydd Jwda'n rhyfela yn Jerwsalem. Cesglir cyfoeth yr holl genhedloedd oddi amgylch—aur ac arian a digonedd o ddillad.

15. A syrth pla tebyg ar geffyl a mul, ar gamel ac asyn, ac ar bob anifail yn eu gwersylloedd.

16. Yna bydd pob un a adawyd o'r holl genhedloedd a ddaeth yn erbyn Jerwsalem yn dod i fyny flwyddyn ar ôl blwyddyn i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ac i gadw gŵyl y Pebyll.

17. A ph'un bynnag o deuluoedd y ddaear nad â i fyny i Jerwsalem i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ni ddisgyn glaw arno.

18. Ac os bydd teulu'r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr ARGLWYDD i daro'r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.

19. Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw'n mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.

20. Ar y dydd hwnnw, bydd “Sanctaidd i'r ARGLWYDD” wedi ei ysgrifennu ar glychau'r meirch, a bydd y cawgiau yn nhŷ'r ARGLWYDD fel y dysglau o flaen yr allor;

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 14