Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 11:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Agor dy byrth, O Lebanon,er mwyn i dân ysu dy gedrwydd.

2. Galarwch, ffynidwydd; oherwydd syrthiodd y cedrwydd,dinistriwyd y coed cryfion.Galarwch, dderw Basan,oherwydd syrthiodd y goedwig drwchus.

3. Clywch alarnadu'r bugeiliaid,am i'w gogoniant gael ei ddinistrio;clywch ru'r llewod,am i goedwig yr Iorddonen gael ei difetha.

4. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy Nuw: “Portha'r praidd sydd i'w lladd.

5. Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, ‘Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth’; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt.

6. Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD. “Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael.”

7. Porthais y praidd a oedd i'w lladd ar gyfer y marchnatwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw'r naill, Trugaredd, a'r llall, Undeb; a phorthais y praidd.

8. Mewn un mis diswyddais dri o'r bugeiliaid am imi flino arnynt, ac yr oeddent hwythau'n fy nghasáu innau.

9. Yna dywedais, “Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd.”

10. A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum â'r holl bobloedd.

11. Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 11