Penodau

  1. 1

Hen Destament

Testament Newydd

Obadeia 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Yr ARGLWYDD yn Cosbi Edom

1. Gweledigaeth Obadeia.Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom(clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD;anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:“Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn”):

2. “Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd,ac fe'th lwyr ddirmygir.

3. Twyllwyd di gan dy galon falch,ti sy'n byw yn agennau'r graig,a'th drigfan yn uchel;dywedi yn dy galon,‘Pwy a'm tyn i'r llawr?’

4. Er iti esgyn cyn uched â'r eryr,a gosod dy nyth ymysg y sêr,fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.

5. “Pe dôi lladron atat,neu ysbeilwyr liw nos(O fel y'th ddinistriwyd!),onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient?Pe dôi cynaeafwyr grawnwin atat,oni adawent loffion?

6. O fel yr anrheithiwyd Esau,ac yr ysbeiliwyd ei drysorau!

7. Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo,y maent wedi dy yrru dros y terfyn;y mae dy gyfeillion wedi dy drechu,dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti—nid oes deall ar hyn.”

8. Ar y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD,“oni ddileaf ddoethineb o Edom,a deall o fynydd Esau?

9. Y mae dy gedyrn mewn braw, O Teman,fel y torrir ymaith bob un o fynydd Esau.

10. Am y lladdfa, ac am y trais yn erbyn dy frawd Jacob,fe'th orchuddir gan warth,ac fe'th dorrir ymaith am byth.”

11. “Ar y dydd y sefaist draw,ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth,ac y daeth dieithriaid trwy ei byrtha bwrw coelbren am Jerwsalem,yr oeddit tithau fel un ohonynt.

12. Ni ddylit ymfalchïo ar ddydd dy frawd,dydd ei drallod.Ni ddylit lawenhau dros blant Jwdaar ddydd eu dinistr;ni ddylit wneud sbortar ddydd gofid.

13. Ni ddylit fynd i borth fy mhoblar ddydd eu hadfyd;ni ddylit ymfalchïo yn eu dinistrar ddydd eu hadfyd;ni ddylit ymestyn am eu heiddoar ddydd eu hadfyd.

14. Ni ddylit sefyll ar y groesfforddi ddifa eu ffoaduriaid;ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangoddar ddydd gofid.”

Duw yn Barnu'r Cenhedloedd

15. “Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw ar yr holl genhedloedd.Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti;fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun.

16. Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd,fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid;yfant a llowciant,a mynd yn anymwybodol.”

Buddugoliaeth Israel

17. “Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangola fydd yn sanctaidd;meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun.

18. A bydd tŷ Jacob yn dân,tŷ Joseff yn fflam,a thŷ Esau yn gynnud;fe'i cyneuant a'i losgi,ac ni fydd gweddill o dŷ Esau,oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD.

19. Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau,a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid;byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria,a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead.

20. Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin,yn meddiannu Canaan hyd Sareffath;a chaethgludion Jerwsalem yn Seffaradyn meddiannu dinasoedd y Negef.

21. Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion,i reoli mynydd Esau;a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD.”