Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 9:14-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Os bydd dieithryn yn aros yn eich plith, ac yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny yn ôl y ddeddf a'r ddefod sy'n gysylltiedig ag ef; yr un ddeddf fydd i'r dieithryn ac i'r brodor.’ ”

15. Ar y dydd y codwyd y tabernacl daeth cwmwl a gorchuddio tabernacl pabell y cyfarfod; ymddangosai fel tân drosto, o'r hwyr hyd y bore.

16. Ac felly y parhaodd; yr oedd cwmwl yn ei orchuddio, ac yn y nos ymddangosai fel tân drosto.

17. Pan godai'r cwmwl oddi ar y babell, byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, a lle bynnag yr arhosai'r cwmwl, byddent yn gwersyllu.

18. Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, ac ar ei orchymyn ef byddent yn gwersyllu; pryd bynnag y byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl, byddent yn aros yn y gwersyll.

19. Hyd yn oed pan fyddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am lawer o ddyddiau, byddai pobl Israel yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, ac ni fyddent yn cychwyn ar eu taith.

20. Weithiau byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ychydig ddyddiau, a byddent hwythau'n aros yn y gwersyll yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith.

21. Dro arall, byddai'r cwmwl yno o'r hwyr hyd y bore yn unig, ac yna pan godai, byddent yn cychwyn allan, ac os byddai yno trwy'r dydd a'r nos, ac yna'n codi, byddent yn cychwyn allan.

22. Os byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ddeuddydd, neu fis neu flwyddyn, byddai pobl Israel yn aros yn eu pebyll heb gychwyn ar eu taith; ond pan godai'r cwmwl, byddent yn cychwyn.

23. Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddent yn gwersyllu, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith; yr oeddent yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 9