Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 9:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn wedi iddynt ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai, a dweud,

2. “Bydded i bobl Israel gadw'r Pasg ar yr adeg benodedig.

3. Cadwch ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn; cadwch y Pasg ar yr adeg benodedig gyda'r holl ddeddfau a'r defodau sy'n gysylltiedig ag ef.”

4. Felly dywedodd Moses wrth bobl Israel am gadw'r Pasg,

5. a gwnaethant hynny yn anialwch Sinai yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Gwnaeth pobl Israel yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

6. Ond ni allai rhai gadw'r Pasg ar y diwrnod penodedig, am eu bod wedi eu halogi eu hunain trwy gyffwrdd â chorff marw; felly daethant at Moses ac Aaron y dydd hwnnw,

7. a dweud, “Yr ydym wedi ein halogi ein hunain trwy gyffwrdd â chorff marw; pam y gwaherddir ni rhag ymuno â phobl Israel i offrymu i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig?”

8. Atebodd Moses hwy, “Arhoswch nes imi glywed beth y mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn amdanoch.”

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd unrhyw un ohonoch chwi neu o'ch disgynyddion yn ei halogi ei hun trwy gyffwrdd â chorff marw, neu os bydd ar daith bell, y mae er hynny i gadw'r Pasg i'r ARGLWYDD.

11. Cadwant ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, ac y maent i fwyta'r Pasg gyda bara croyw a llysiau chwerw.

12. Nid ydynt i adael dim ohono'n weddill hyd y bore, na thorri asgwrn ohono; y maent i gadw'r holl ddeddf ynglŷn â'r Pasg.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 9