Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 8:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. “Dyma'r drefn ynglŷn â'r Lefiaid: bydd y rhai sy'n bum mlwydd ar hugain a throsodd yn mynd i mewn i wneud y gwaith ym mhabell y cyfarfod;

25. ond yn hanner cant oed byddant yn gorffen gweithio ac yn peidio â'u gwasanaeth.

26. Cânt gynorthwyo'u brodyr i ofalu am babell y cyfarfod, ond y mae cyfnod eu gwasanaeth ar ben. Dyma a wnei ynglŷn â gorchwylion y Lefiaid.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 8