Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 8:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron a'i feibion o blith pobl Israel, i wasanaethu'r Israeliaid ym mhabell y cyfarfod, ac i wneud cymod drostynt, rhag i bla ddod ar bobl Israel wrth iddynt ddod yn agos at y cysegr.”

20. Gwnaeth Moses, Aaron, a holl gynulliad pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn â'r Lefiaid.

21. Purodd y Lefiaid eu hunain o'u pechod, a golchi eu dillad, a chyflwynodd Aaron hwy yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaeth gymod drostynt i'w glanhau.

22. Wedyn, aeth y Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a gweini ar Aaron a'i feibion. Gwnaethpwyd i'r Lefiaid fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

23. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

24. “Dyma'r drefn ynglŷn â'r Lefiaid: bydd y rhai sy'n bum mlwydd ar hugain a throsodd yn mynd i mewn i wneud y gwaith ym mhabell y cyfarfod;

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 8