Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 8:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth Aaron, ‘Pan fyddwch yn gosod y lampau yn eu lle, bydd y saith ohonynt yn goleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren.’ ”

3. Gwnaeth Aaron hyn, a gosododd y lampau i oleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

4. Yr oedd y canhwyllbren wedi ei wneud o aur gyr, o'i draed at ei flodau. Gwnaeth y canhwyllbren yn ôl y patrwm a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses.

5. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

6. “Cymer y Lefiaid o blith pobl Israel, a glanha hwy.

7. Dyma a wnei iddynt i'w glanhau: tywallt arnynt ddŵr puredigaeth, a gwna iddynt eillio pob rhan o'u corff, a golchi eu dillad a bod yn lân.

8. Yna gwna iddynt gymryd bustach ifanc gyda bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, a chymer dithau fustach ifanc arall yn aberth dros bechod.

9. Tyrd â'r Lefiaid o flaen pabell y cyfarfod, a chasgla ynghyd holl gynulliad pobl Israel.

10. Wrth iti ddod â'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD, bydd pobl Israel yn gosod eu dwylo arnynt,

11. a bydd Aaron yn cyflwyno'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan oddi wrth bobl Israel, er mwyn iddynt wasanaethu'r ARGLWYDD.

12. Yna bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y bustych, a byddi dithau'n offrymu un bustach yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, i wneud cymod dros y Lefiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 8