72. Ar yr unfed dydd ar ddeg, offrymodd Pagiel fab Ocran, arweinydd pobl Aser, ei offrwm yntau:
73. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
74. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
75. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
76. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
77. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Pagiel fab Ocran.
78. Ar y deuddegfed dydd, offrymodd Ahira fab Enan, arweinydd pobl Nafftali, ei offrwm yntau:
79. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
80. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
81. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
82. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
83. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahira fab Enan.
84. Dyma oedd yr offrwm gan arweinwyr Israel ar gyfer cysegru'r allor ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg plât arian, deuddeg cawg arian a deuddeg dysgl aur,
85. a phob plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, pob cawg arian yn pwyso saith deg o siclau, a'r holl lestri arian yn pwyso dwy fil pedwar cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr;
86. hefyd, deuddeg dysgl aur yn llawn o arogldarth, pob un yn pwyso deg sicl, yn ôl sicl y cysegr, a'r holl ddysglau aur yn pwyso cant ac ugain o siclau;
87. hefyd, gwartheg ar gyfer y poethoffrwm, yn gyfanswm o ddeuddeg bustach, deuddeg hwrdd, deuddeg oen gwryw gyda'r bwydoffrwm; yr oedd deuddeg bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
88. gwartheg ar gyfer aberth yr heddoffrwm, yn gyfanswm o bedwar ar hugain o fustych, trigain hwrdd, trigain bwch, a thrigain oen gwryw. Dyma oedd yr offrwm ar gyfer cysegru'r allor, wedi ei heneinio.
89. Pan aeth Moses i mewn i babell y cyfarfod i lefaru wrth yr ARGLWYDD, clywodd lais yn galw arno o'r drugareddfa oedd ar arch y dystiolaeth rhwng y ddau gerwb; ac yr oedd y llais yn siarad ag ef.