50. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
51. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
52. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
53. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisama fab Ammihud.
54. Ar yr wythfed dydd, offrymodd Gamaliel fab Pedasur, arweinydd pobl Manasse, ei offrwm yntau:
55. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
56. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
57. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
58. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
59. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Gamaliel fab Pedasur.
60. Ar y nawfed dydd, offrymodd Abidan fab Gideoni, arweinydd pobl Benjamin, ei offrwm yntau:
61. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
62. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
63. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;