40. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
41. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai.
42. Ar y chweched dydd, offrymodd Eliasaff fab Reuel, arweinydd pobl Gad, ei offrwm yntau:
43. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
44. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;