Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 7:29-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliab fab Helon.

30. Ar y pedwerydd dydd, offrymodd Elisur fab Sedeur, arweinydd pobl Reuben, ei offrwm yntau:

31. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

32. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

33. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

34. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

35. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Elisur fab Sedeur.

36. Ar y pumed dydd, offrymodd Selumiel fab Surisadai, arweinydd pobl Simeon, ei offrwm yntau:

37. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;

38. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;

39. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

40. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

41. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 7