24. Ar y trydydd dydd, offrymodd Eliab fab Helon, arweinydd pobl Sabulon, ei offrwm yntau:
25. plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
26. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
27. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
28. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
29. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Eliab fab Helon.
30. Ar y pedwerydd dydd, offrymodd Elisur fab Sedeur, arweinydd pobl Reuben, ei offrwm yntau: