1. Ar y dydd y gorffennodd Moses godi'r tabernacl, fe'i heneiniodd a'i gysegru ynghyd â'i holl ddodrefn, yr allor a'i holl lestri.
2. Yna daeth arweinwyr Israel, sef y pennau-teuluoedd ac arweinwyr y llwythau oedd yn goruchwylio'r rhai a gyfrifwyd,
3. a chyflwyno'u hoffrwm gerbron yr ARGLWYDD; yr oedd ganddynt chwech o gerbydau a gorchudd drostynt, a deuddeg o ychen, un cerbyd ar gyfer pob dau arweinydd, ac ych ar gyfer pob un. Wedi iddynt ddod â'u hoffrymau o flaen y tabernacl,
4. dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
5. “Cymer y rhain ganddynt i'w defnyddio yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod, a rho hwy i'r Lefiaid, i bob un yn ôl gofynion ei waith.”
6. Felly cymerodd Moses y cerbydau a'r ychen, a'u rhoi i'r Lefiaid.
7. Rhoddodd ddau gerbyd a phedwar ych i feibion Gerson, yn ôl gofynion eu gwaith,
8. a phedwar cerbyd ac wyth ych i feibion Merari, yn ôl gofynion eu gwaith; yr oeddent hwy dan awdurdod Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
9. Ond ni roddodd yr un i feibion Cohath, oherwydd ar eu hysgwyddau yr oeddent hwy i gludo'r pethau cysegredig oedd dan eu gofal.
10. Ar y dydd yr eneiniwyd yr allor, daeth yr arweinwyr â'r aberthau a'u hoffrymu o flaen yr allor i'w chysegru.
11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Bydd un arweinydd bob dydd yn cyflwyno'i offrymau i gysegru'r allor.”
12. Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda.
13. Ei offrwm ef oedd: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
14. dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
15. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;