Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 5:17-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. a bydd yn cymryd dŵr cysegredig mewn llestr pridd, a chymysgu ag ef beth o'r llwch oddi ar lawr y tabernacl.

18. Wedi iddo ddod â'r wraig gerbron yr ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn cymryd y gorchudd oddi ar ei phen, ac yn rhoi yn ei dwylo y bwydoffrwm coffa, sef y bwydoffrwm dros eiddigedd. Bydd yntau'n cario'r dŵr chwerw sy'n achosi melltith.

19. Yna fe wna iddi dyngu llw, ac fe ddywed wrthi, “Os nad oes dyn wedi gorwedd gyda thi, ac os nad wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun pan oeddit dan awdurdod dy ŵr, yna ni fydd y dŵr chwerw sy'n achosi melltith yn dy niweidio.

20. Ond os wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun, a gadael i ddyn arall orwedd gyda thi tra oeddit dan awdurdod dy ŵr,”

21. (yna, wedi i'r offeiriad beri i'r wraig dyngu llw'r felltith, fe ddywed wrthi) “boed i'r ARGLWYDD dy wneud yn felltith ac yn llw ymhlith dy bobl trwy bydru dy glun a chwyddo dy groth;

22. bydd y dŵr hwn sy'n achosi melltith yn mynd i mewn i'th ymysgaroedd, ac yn peri i'th groth chwyddo ac i'th glun bydru.” Yna bydd y wraig yn dweud, “Amen, Amen.”

23. “ ‘Yna bydd yr offeiriad yn ysgrifennu'r melltithion hyn mewn llyfr ac yn eu golchi ymaith i'r dŵr chwerw;

24. bydd yn peri i'r wraig yfed y dŵr chwerw sy'n achosi melltith, a bydd y dŵr, o'i yfed, yn peri artaith chwerw iddi.

25. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y bwydoffrwm dros eiddigedd o ddwylo'r wraig, ac yn ei chwifio gerbron yr ARGLWYDD cyn dod ag ef at yr allor.

26. Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r bwydoffrwm fel offrwm coffa, ac yn ei losgi ar yr allor; yna fe wna i'r wraig yfed y dŵr.

27. Os bu i'r wraig ei halogi ei hun a bod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr, wedi iddi ei yfed, yn achosi melltith ac yn peri artaith chwerw iddi. Bydd ei chroth yn chwyddo a'i chlun yn pydru, a bydd y wraig yn felltith ymhlith ei phobl.

28. Ond os na fu i'r wraig ei halogi ei hun, ac os yw'n lân, yna bydd yn rhydd i esgor ar blant.

29. “ ‘Dyma'r ddeddf mewn achosion o eiddigedd pan fo gwraig, a hithau dan awdurdod ei gŵr, yn cyfeiliorni ac yn ei halogi ei hun,

30. a phan fo ysbryd o eiddigedd yn dod dros y gŵr o achos ei wraig: y mae i wneud iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn ei thrin yn unol â'r holl ddeddf hon.

31. Bydd y gŵr yn ddieuog o gamwedd, ond bydd y wraig yn dwyn ei chamwedd arni hi ei hun.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 5