Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 5:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

12. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd gan ddyn wraig yn cyfeiliorni ac yn anffyddlon iddo

13. trwy orwedd gyda dyn arall, a'i gŵr heb fod yn gwybod, a'i halogrwydd yn guddiedig am nad oedd tyst ac na chafodd ei dal,

14. yna, os daw ysbryd o eiddigedd dros ei gŵr oherwydd ei wraig, boed hi wedi ei halogi ei hun neu beidio,

15. deued â'i wraig at yr offeiriad, a chyflwyno offrwm drosti, sef degfed ran o effa o flawd haidd; nid yw i dywallt olew drosto na rhoi thus ynddo, oherwydd bwydoffrwm dros eiddigedd yw, a bwydoffrwm i goffáu camwedd.

16. “ ‘Yna daw'r offeiriad â hi ymlaen a gwneud iddi sefyll gerbron yr ARGLWYDD,

17. a bydd yn cymryd dŵr cysegredig mewn llestr pridd, a chymysgu ag ef beth o'r llwch oddi ar lawr y tabernacl.

18. Wedi iddo ddod â'r wraig gerbron yr ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn cymryd y gorchudd oddi ar ei phen, ac yn rhoi yn ei dwylo y bwydoffrwm coffa, sef y bwydoffrwm dros eiddigedd. Bydd yntau'n cario'r dŵr chwerw sy'n achosi melltith.

19. Yna fe wna iddi dyngu llw, ac fe ddywed wrthi, “Os nad oes dyn wedi gorwedd gyda thi, ac os nad wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun pan oeddit dan awdurdod dy ŵr, yna ni fydd y dŵr chwerw sy'n achosi melltith yn dy niweidio.

20. Ond os wyt wedi cyfeiliorni a'th halogi dy hun, a gadael i ddyn arall orwedd gyda thi tra oeddit dan awdurdod dy ŵr,”

21. (yna, wedi i'r offeiriad beri i'r wraig dyngu llw'r felltith, fe ddywed wrthi) “boed i'r ARGLWYDD dy wneud yn felltith ac yn llw ymhlith dy bobl trwy bydru dy glun a chwyddo dy groth;

22. bydd y dŵr hwn sy'n achosi melltith yn mynd i mewn i'th ymysgaroedd, ac yn peri i'th groth chwyddo ac i'th glun bydru.” Yna bydd y wraig yn dweud, “Amen, Amen.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 5